ASDA - In the heart of the community

Ynglŷn ag ASDA

Cymuned Leol

Rydym yn hoffi cyfrannu rhywbeth i'r cymunedau ble rydym yn byw a gweithio. Mae'n siopau yn rhan bositif o bob agwedd o fywyd lleol, o weithio gyda chyflenwyr lleol newydd i gefnogi elusennau a gweithgareddau cymunedol.

Rydym yn trefnu rhaglen flynyddol ‘ASDA Yn Y Gymuned' gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cynnwys sesiynau rhoi gwaed yn y siop, hyfforddiant diogelwch tân, gwiriadau iechyd i gwsmeriaid a chydweithwyr, dyddiau ymwybyddiaeth diogelwch ffordd ac elusennau, i enw ambell un.

Mae'n cydweithwyr yn y siop a'r storfa'n weithgar yn eu cymunedau, ac yn 2006 fe dreuliwyd bron i 100,000 o oriau gwaith gyda grwpiau lleol ac unigolion yn eu cymunedau. Y llynedd, fe gasglwyd £1.2 miliwn i elusennau.

Economi Leol

Mae gan ein siopau rôl ganolog yn y cymunedau maent yn gwasanaethu - yn creu swyddi newydd ac ysgogi'r economi. Mae ASDA yn darparu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel i gymunedau am bris fforddiadwy.

Mae mwy i werth na dim ond pris, mae hefyd yn ymwneud â dewis, ansawdd, gwasanaeth a fforddiadwyedd. Ar draws bwydydd, dillad George, DVD, ffonau symudol, fferyllfeydd a phetrol, mae ASDA yn darparu ar gyfer pobl leol. Ni yw archfarchnad orau'r Deyrnas Unedig o ran gwerth.

Mae siopa hygyrch, am bris isel yn hanfodol i helpu cymunedau cynaliadwy.Mae'n fodd o adfywio canolfannau trefol a dinasoedd ac yn darparu gwasanaethau i ardaloedd gwledig.

Rydym yn ceisio galluogi'n cwsmeriaid i gadw mwy o'u harian trwy leihau cost bywyd pob dydd.

saving you money every day