ASDA - We hate waste of any kind

Ynglŷn ag ASDA

Rydym yn casáu gwastraff o unrhyw fath

Rydym eisiau lleihau faint o drydan, pecynnu a thanwydd a ddefnyddiwn a throsglwyddo'r arbedion i'r cwsmer er mwyn darparu cynnyrch a gwasanaethau o'r ansawdd uchaf i'n cwsmeriaid.

Mae ASDA am wneud byw'n fwy cynaliadwy yn rhywbeth fforddiadwy i bawb ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith i ni gael ein dethol fel groser gwyrddaf Prydain yn 2007.

Gwastraff a Phecynnu

Ein targed yw peidio ag anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi erbyn 2010.

Ar hyn o bryd rydym yn ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio 60% o'n gwastraff. Yn ystod y flwyddyn i ddod byddwn yn lleihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir ar ein cynnyrch ein hunain gan 25%.Byddwn hefyd yn lleihau defnydd o fagiau plastig gan 25% erbyn diwedd 2008.

Trafnidiaeth

Rydym yn symud mwy a mwy o’n cludiant ffordd i reilffyrdd ac yn cyflwyno tryciau deulawr a gerbocsys awtomatig, sy’n fwy effeithlon o ran defnydd o danwydd. Mae hyn wedi arbed 43 miliwn o filltiroedd ar y ffyrdd – sy’n cyfateb i 50,000 tunnell o garbon deuocsid. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 40% mew echdyniadau ers 2005.

Mae’n canolfannau fynonellu lleol wedi’n helpu i gymryd 8 miliwn o filltiroedd bwyd oddi ar y ffordd yn 2008.

 

Ynni

Byddwn yn gostwng gofynion ynni ein siopau a chanolfannau dosbarthu presennol gan 20% erbyn 2012, yn seiliedig ar gynllun siop 2005.

Byddwn hefyd yn gostwng gofynion ynni siopau newydd gan 30% erbyn 2010, yn seiliedig ar siop o 2005.

saving you money every day