Beth sydd wedi newid ers y cynnig blaenorol?
Bu ASDA yn ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd ar y cynnig gwreiddiol. Rydym wedi'n calonogi gan faint o gefnogaeth sydd i'r siop, ond rydym hefyd wedi gwrando ar ac ymateb i'r adborth a dderbyniom o ran y cynllun newydd hwn. Y prif newidiadau yn y cynllun newydd yw:
- Mae'r siop a'r maes parcio wedi cyfnewid safle, fel bod y maes parcio yn agosach at ganol y dref. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws a chyflymach i bobl ymweld â siop ASDA a Stryd Fawr Gorseinon ar yr un pryd.
- Erbyn hyn, mae'r siop yn wynebu canol y dref, gan annog rhagor o deithiau cysylltiedig i'r siop a'r Stryd Fawr.
- Mae llwybrau cerdded rhwng y safle a'r Stryd Fawr wedi eu gwella'n sylweddol, gyda nodweddion deniadol ac ymarferol ar dir y cyhoedd wedi eu cynnwys yng nghornel dde orllewinol y safle (yn agos at Heol Cecil).
- Bydd yr iard wasanaeth (ardal derbyn nwyddau) yn llawer pellach i ffwrdd o'r adeiladau preswyl.