Our proposals

Y Datblygiad

Mae safle Heol y Mynydd yn lleoliad allweddol a'n hamcan yw adeiladu siop ASDA sy'n briodol i'r safle ac a fydd yn gweddu i Orseinon yn gyffredinol. Rydym yn argymell cynllun sy'n ddeniadol, yn ddengar ac yn ymarferol.

Bydd ein Tîm Adeiladu yn defnyddio detholiad o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, coed o ffynonellau cynaliadwy, concrid gyda lefel is o sment, paent sy’n garedig i'r amgylchedd a nodweddion cynaliadwy eraill. Trwy ddefnyddio detholiad o arfau a thechnolegau arbed ynni, ar hyn o bryd mae siopau newydd ASDA o leiaf 25% yn fwy effeithiol o ran defnydd o ynni ac yn rhyddhau 30% yn llai o garbon na'r rhai a adeiladwyd yn 2005.

Beth mae ASDA eisiau cynnig i Orseinon?

Daeth y cynnig cyntaf gan ASDA i agor siop ar hen safle Glofa'r Mynydd a safle Gwaith Tunplat Gorseinon, rhwng Heol Cecil a Heol y Mynydd yn 2006. Rydym yn awyddus i ddod â'r safle hwn yn ôl i ddefnydd economaidd ac wedi ailgynllunio'r cynllun yn ofalus yn unol ag adborth a dderbyniom ar y pryd.

Bydd siop ASDA yn darparu mynediad i fwydydd fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol, a rhywfaint o eitemau eraill megis nwyddau i'r cartref a'n brand ffasiwn arobryn ‘George'. Wedi i’n hymgynghorwyr cynllunio gyflawni arolygon siopa trylwyr, amcangyfrifir y cyflawnir dros 75% o siopa bwyd mewn trefi eraill sydd â chynnig mwy deniadol, megis Parc Troste a Fforestfach. Mae hyn yn niweidio canol tref Gorseinon a'r gymunedol leol yn gyffredinol.

Rydym yn argymell adeiladu siop gydag ardal werthiant 2,705 metr sgwâr (29,100 troedfedd sgwâr) o faint a chyfanswm ardal cyhoeddus o 3,243 metr sgwâr (34,907 troedfedd sgwâr). Byddai gan y siop lefydd parcio ar gyfer 332 o geir, yn cynnwys llefydd ar gyfer gyrwyr anabl a rhieni gyda phlant. Byddai maint y siop yn cyd-fynd â'r dref, ond yn ddigon mawr i annog rhagor o bobl leol i siopa yng Ngorseinon.

Bydd y siop yn hawdd i'w chyrraedd ar droed o'r Stryd Fawr, yn ogystal â gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a char. Cynlluniwyd ein cynnig i integreiddio'n llawn â, ac ychwanegu at, ganol y dref.

 

saving you money every day