
Cymeradwyodd Cyngor Dinas Abertawe gais cynllunio Heol y Mynydd ASDA ar Ddydd Iau 20fed Awst 2009. Rydym yn hapus iawn gyda’r penderfyniad, sy’n adlewyrchu cefnogaeth aruthrol y trigolion lleol.
Cliciwch ar y ddolen hon am ragor o wybodaeth ar y penderfyniad.
Daeth y cynnig cyntaf gan ASDA i agor siop ar hen safle Glofa'r Mynydd a safle Gwaith Tunplat Gorseinon, rhwng Heol Cecil a Heol y Mynydd yn 2006. Rydym yn awyddus i ddod â'r safle hwn yn ôl i ddefnydd economaidd ac wedi ailgynllunio'r cynllun yn ofalus yn unol ag adborth a dderbyniom ar y pryd.
Rydym yn hoffi cyfrannu rhywbeth i'r cymunedau ble rydym yn byw a gweithio. Mae'n siopau yn rhan bositif o bob agwedd o fywyd lleol, o weithio gyda chyflenwyr lleol newydd i gefnogi elusennau a gweithgareddau cymunedol.
Wedi cael adborth gan bobl leol, byddwn yn ceisio gweithredu ar y sylwadau hyn yn ein cynlluniau ble fo'n bosibl. Yna, byddwn yn cyflwyno'n cais i Gyngor Dinas Abertawe i'w ystyried.
| Hafan | Map o'r Safle | Cyswllt | Datganiad Hygyrchedd| | Change to a small font size| Change to the default font size| Change to a large font size| |
© Hawlfraint ASDA 2009